Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru ac mae awdurdodau'r 3 gwasanaeth tân ac achub, y 3 pharc cenedlaethol a'r 4 heddlu yn aelodau cyswllt.
Prif ddibenion WLGA yw hyrwyddo safonau ac enw da maes llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau i'r cyhoedd a democratiaeth.
Cafodd ei sefydlu ym 1996 yn gorff llunio polisïau a chynrychioli ond, ers hynny, mae WLGA wedi tyfu'n sefydliad sy'n arwain ym meysydd datblygu a gwella, cydraddoldeb, caffael a materion cyflogaeth hefyd ac yn cynnal amrywiaeth eang o bartneriaid sy'n ymwneud â maes llywodraeth leol.
Mae WLGA o hyd yn rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr (LGA). Mae wedi newid ei haelodaeth i fod yn aelod cyswllt ers mis Ebrill 2005 gan ofalu ei bod hi’n parhau i gynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol Cymru gerbron Llywodraeth y DG.
