Amlinellodd Deddf 'Troseddu ac Anhrefn' 1998 y gofynion statudol i 'awdurdodau perthnasol' weithio ar y cyd ym mhob ardal ynglŷn â llunio, cyhoeddi a defnyddio strategaethau i fynd i'r afael â materion troseddu, anhrefn a chyffuriau yno. Ers hynny, mae dyletswydd wedi'i rhoi arnyn nhw ynglŷn â chwtogi ar nifer y rhai sy'n aildroseddu. Y 22 bartneriaeth dros ddiogelwch cymunedol sy'n gyfrifol am y cydweithio hwnnw yng Nghymru.
Dyma aelodau'r bartneriaeth ym mhob ardal: yr awdurdod lleol, yr heddlu, awdurdod yr heddlu, awdurdod y gwasanaeth tân ac achub, y GIG a'r gwasanaeth prawf. Nhw yw'r 'awdurdodau perthnasol' yn ôl y ddeddf. Ar ben hynny, mae pob partneriaeth yn cydweithio'n agos â nifer o asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, byd busnes a mudiadau gwirfoddol, e.e. timau ar gyfer troseddwyr ifanc, y bwrdd lleol dros gyfiawnder troseddol, y bartneriaeth dros blant a phobl ifanc a'r bartneriaeth dros iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman


