Nid ad-drefnu cynghorau Cymru yw'r ffordd ymlaen yn ôl Beecham
10 Gorffenaf 2006
Ddylen ni ddim ystyried mai ad-drefnu byd llywodraeth leol yw'r ffordd orau o wella gwasanaethau cyhoeddus. Dyma'r neges Syr Jeremy Beecham yn adroddiad ei Adolygiad o Ddarparu Gwasanaethau Lleol, a gafodd ei gyhoeddi heddiw.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu'n fawr yr adroddiad, sy'n dweud yn eglur hefyd na fydd yn bosibl gwyro oddi wrth y rhaglen ddiwygio sylweddol sydd ar waith yn barod ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Gan ymateb i'r adroddiad, meddai'r Cyng. Derek Vaughan, Arweinydd WLGA:
“Mae'r adroddiad yn cyflwyno heriau sylweddol a does dim lle inni fod yn hunanfodlon. Mae negeseuon allweddol Adolygiad Beecham, sef mynnu i'r gwasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio ar anghenion dinasyddion a chadw trefn ar eu perfformiad nhw, yn rhai rydyn ni'n eu cydnabod yn llwyr. Yn yr un modd, mae byd llywodraeth leol Cymru i gyd yn cefnogi'r syniad o gydweithio i raddau sydd heb eu gweld erioed.”
Ychwanegodd y Cyng. Vaughan:
“Mae byd llywodraeth leol yn cyflawni llawer yn barod o ran gweithio'n fwy effeithlon. Yn ôl yr arolwg a gynhaliodd WLGA yn ddiweddar, mae byd llywodraeth leol Cymru wedi rhagori ar ei darged ynglŷn ag effeithlonrwydd. Byddwn ni'n cyflwyno'r ffigurau i'r archwilwyr cyn bo hir, ac mae'r arbedion bron dwywaith y targed!”
“Rydyn ni'n cydweithio'n agosach nag erioed, gan sefydlu byrddau rhanbarthol er mwyn rhannu adnoddau ac arbenigedd a threfnu a darparu gwasanaethau ar y cyd. Mae byd llywodraeth leol wedi mynegi diddordeb ar ran Cymru gyfan, hefyd, ynglŷn â sefydlu rhif ffôn amgen na 999 i gyfuno gwasanaethau eto fyth yng Nghymru.”
“Er bod digon o le i wella, does dim dwywaith y bydd Adolygiad Beecham yn ysgogi byd llywodraeth leol ymhellach i ateb yr her honno.”
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi buddsoddi bron £2 filiwn yng Nghronfa Gwella 'Creu'r Cysylltiadau' i ddatblygu cydweithio yng Nghymru ymhellach, gan gynnwys bwrw golwg ar drefniadau rheoli gwastraff, gwasanaethau gweinyddu a'r syniad arloesol newydd o roi gofal trwy gyfrwng electronig.
Gwaswych y ddolen ar y dde i weld adroddiad Adolygiad Beecham .
Mae rhagor o wybodaeth gan: Paul Charkiw
