Adolygiad o’r ddarpariaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Gellir dadlau taw hwn yw’r adolygiad mwyaf sylfaenol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru am yn agos i ddegawd.
Mae WLGA wedi cyflwyno’i hachos i'r cyngor nifer o weithiau, gan drosglwyddo cyfres o negesau allweddol yn ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Bydd y pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ym mis Mehefin 2006 a bydd, ymhlith llawer o faterion, yn rhestru argymhellion ar gyfer swyddogaethau asiantau sector cyhoeddus, gan gynnwys y Byrddau Iechyd Lleol, yn y dyfodol.
Bydd WLGA a chynrychiolwyr o blith Cadeiryddion y Byrddau Iechyd Lleol yn cyfarfod â phwyllgor Beecham ar 9 Rhagfyr er mwyn cynnig negesau allweddol cynnar am ein profiadau.
Mae modd gweld prif negeseuon CLILC ynghylch iechyd, gofal cymdeithasol a lles trwy wasgu’r ddolen ar y dde.


