Currently being updated with our translation department
Mae datblygu economaidd ac adfywio yn flaenoriaeth drwy'r amser i fyd llywodraeth leol a llywodraeth y wlad fel ei gilydd ond, yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni yn sgil y dirwasgiad, mae'n bwysicach nag erioed inni adfywio'r economi.
Er bod byd llywodraeth leol yn ymwneud â gweithgareddau penodol ar gyfer datblygu'r economi, mae'i swyddogaethau a'i wasanaethau i gyd yn effeithio'n fawr ar economi pob ardal. Mae'n prynu amrywiaeth helaeth o wasanaethau trwy gwmnïau lleol, mae'n rheoli trefn y cynllunio a rhannau helaeth o gyfundrefn y drafnidiaeth ac mae ganddo fwy o weithwyr ym mhob bro nag unrhyw gyflogwr arall – 160,000 ledled Cymru, ac mae cyflogau'r rheiny'n cynnal economïau lleol.
Rôl yr awdurdodau lleol
Mae'r awdurdodau lleol yn helpu i ddatblygu economi a gwella ffyniant pob bro. Maen nhw'n gwneud hynny ar y cyd â phartneriaid pwysig megis cymunedau, y trydydd sector a'r sector preifat. Maen nhw'n cydweithio mwyfwy ag awdurdodau lleol eraill ar draws ffiniau daearyddol hefyd, boed trwy raglenni adfywio ardaloedd megis Blaenau'r Cymoedd a Môn a Menai, trefniadau rhanbarthol ac is-ranbarthol eraill ac yn y cyd-destun gofodol trwy Gynllun Gofodol Cymru. At hynny, maen nhw'n cyflawni rôl bwysig ynglŷn â chynnal prosiectau Cronfeydd Strwythurol Undeb Ewrop ledled Cymru – a hynny ar y cyd sawl tro ag awdurdodau lleol cyfagos a phartneriaid eraill ar lefel ranbarthol neu is-ranbarthol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth o'r enw 'Adnewyddu Economaidd: Cyfeiriad Newydd' fis Gorffennaf 2010 i amlinellu ffordd amgen o adfywio'r economi trwy roi llai o gymorthdaliadau i gwmnïau a gwario rhagor o arian ar isadeiledd technoleg gwybodaeth a thrafnidiaeth er ffyniant cwmnïau o'r fath. Mae'r strategaeth yn sôn am helpu cwmnïau yn ôl chwe sector allweddol, hefyd.
Ar wahân i'r anawsterau economaidd sylweddol sydd wedi codi o ganlyniad i'r argyfwng ariannol byd-eang, mae rhai gorchwylion ymestynnol yn wynebu pob bro a'r wlad i gyd:
- cynyddu cyfanswm y rhai sy'n gweithio
- gostwng canran y rhai sydd heb gyfrannu at yr economi
- cynyddu cynnyrch mewnol crynswth Cymru
- ychwanegu at fedrau'r gweithlu
- codi lefelau ymchwil, datblygu ac arloesi
- adfywio'r cymunedau mwyaf difreintiedig
- gofalu bod ffyniant economaidd ar hyd a lled Cymru
Ffeithiau allweddol
Mae Cymru yn un o rannau tlotaf y DG ac Undeb Ewrop o hyd yn ôl cynnyrch mewnol crynswth y pen ac incwm pob teulu.
- Mae 74.3% o bobl Cymru yn cyfrannu at yr economi o'i chymharu â chyfartaledd y DG, 76.8%.
- Cymru sydd â gwerth crynswth ychwanegol isaf y DG yn ôl y pen.
- Mae'r gorllewin a chymoedd y deheubarth ymhlith pump ardal dlotaf y DG yn ôl incwm pob teulu wedi talu'r dreth.
- Mae tua £3 biliwn ar gael i Gymru trwy raglenni Cronfeydd Strwythurol Undeb Ewrop ac arian cyfatebol rhwng 2007 a 2013.
- Mae Rhaglen 'Cymunedau'n Gyntaf' yn helpu dros 100 o wardiau mwyaf difreintiedig Cymru.
Rhagor o wybodaeth


