Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Adfywio a'r amgylchedd / Adfywio
 

Adfywio

Mae awdurdodau lleol yng nghanol y gwaith o ofalu am les cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eu hardaloedd. Mae’n rhaid gwneud hyn ar y cyd ag asiantaethau allweddol eraill a Llywodraeth y Cynulliad i gyflawni’r amcanion pwysig yma. Mae’n rhaid i weithgarwch byd llywodraeth leol ganolbwyntio ar adfywio cynaladwy i ddiogelu dyfodol cymunedau yn y tymor hir ac ansawdd eu bywyd. Ystyr hyn yn benodol yw:

Yr economi

  • Datblygu’r economi lleol yn lle canolbwyntio ar ddenu arian o’r tu allan yn unig.
  • Rhoi pwyslais ar wella lles yr ardal a rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i weithio a hyfforddi.

Yr amgylchedd

  • Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol a chysylltu hyn â gwaith ymgysylltu â’r gymuned a datblygu’r economi.

Bywyd cymdeithasol

  • Rhoi pobl a chymunedau lleol wrth galon y broses.
  • Datrys diffyg medrau sylfaenol i alluogi pobl i gyfrannu’n llawn wrth adfywio’r economi ac ateb galw cyfnewidiol y farchnad lafur.

Y nod yn y pen draw yw gofalu bod adfywio cynaladwy o fantais i’r economi a chyfiawnder cymdeithasol. Bydd methu â gwneud hyn yn golygu nad yw’r deilliannau yn gynaladwy yn y tymor hir. Mae mentrau adfywio yn methu yn aml am nad ydyn nhw’n diwallu anghenion lleol nac yn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd anfanteision economaidd. Y bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn ardal ac eraill sy’n poeni am ei dyfodol yw’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i ganfod atebion, eu rhoi ar waith ac elw ar y canlyniad. Mae’n rhaid i waith adfywio ganolbwyntio ar ddatblygu’r gallu yma a chreu’r cysylltiadau addas. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol mewn perthynas â chyfres nesaf Cronfeydd Strwythurol Undeb Ewrop sydd i'w cyflwyno yn 2007.

Er bod ansawdd bywyd da, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a dinasoedd a threfi bywiog mewn sawl rhan o Gymru, mae ganddi hefyd rai o’r cymunedau mwyaf amddifad ac ardaloedd gwledig anghysbell.

Mae ardaloedd amddifad yn tueddu i fod â lefelau diweithdra uwch ar gyfer y tymor hir ac ymhlith pobl ifanc, diffyg medrau, diwydiannau difflach, iechyd ac addysg gwael, tai gwael, amgylchedd ffisegol wedi dirywio, llawer yn dibynnu ar fudd-daliadau, cyfran uchel o rieni sengl, gwerthoedd cymunedol a chydlyniad cymdeithasol wedi’u colli, pobl o dras leiafrifol yn cael eu hanffafrio, lefelau troseddau a chamddefnyddio cyffuriau uchel. Yn y pen draw, mae’r problemau hyn yn codi am fod busnesau a phobl yn colli hyder mewn ardal a phan fo’r prif wasanaethau cyhoeddus wedi methu rhoi’r cymorth cydlynol oedd ei angen. Dan amgylchiadau fel hyn, mae angen camau adfywio ar y cyd sy’n mynd i’r afael ag achosion a sumptomau problemau o’r fath, neu’n lleddfu’r problemau, o leiaf.

Mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth ganolog o ran adfywio’r economi a’r gymuned gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad, asiantaethau menter, cylchoedd cymunedol a chwmnïau preifat. Mae’r rhain yn allweddol er mwyn cyflwyno rhaglenni megis Amcan Un/Dau/Tri, Cymunedau’n Gyntaf a Gweithredu mewn Cymunedau Gwledig. Mae’r rhain yn gysylltiedig â llu o weithgareddau penodol gan gynnwys cynorthwyo busnesau, datblygu cymunedau, adfywio ffisegol a datblygu’r farchnad lafur. At hynny, mae ymdrechion i adfywio yn cael cymorth gan wasanaethau yn y prif ffrwd megis addysg, cludiant, tai a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r Gymdeithas yn ceisio cynorthwyo awdurdodau lleol ym meysydd datblygu ac adfywio economaidd drwy:

  • Roi gwybodaeth am bolisïau perthnasol a gaiff eu datblygu a’u dadansoddi;
  • Hybu a hwyluso swyddogaeth awdurdodau lleol ym meysydd datblygu economaidd, twristiaeth ac adfywio wrth gydweithio â sefydliadau allanol; Rhannu profiadau ymhlith awdurdodau lleol e.e. drwy Gynllun Rhagoriaeth Cymru;

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym