Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Yr amgylchedd ac Adfywio

City & County of Swansea ©Mae amgylchedd Cymru yn amryfal iawn ac yn cynnwys rhai o safleoedd mwyaf sensitif Ewrop yn ogystal â rhai ardaloedd sydd wedi dirywio'n fawr. Mae'r awdurdodau lleol yn cynnig amryw wasanaethau lleol hanfodol sy'n helpu i ddiogelu a gwella ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd.

Maen nhw'n gyfrifol am nodi tir difwynedig ac maen nhw'n arwain gorchwylion rheoli ac atal llygredd, gan gydweithio'n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn aml, byddan nhw'n arwain ynghylch bioamrywiaeth a Deddf 'Hawliau Tramwy Cefn Gwlad', gan reoli safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a chydweithio â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a phartneriaid eraill ynglŷn ag ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol. Ymhlith y gweithgareddau eraill mae adfer tir difwynedig, rhoi mynediad i gefn gwlad a diogelu rhag llifogydd.

Gall adfywio gael ei ddarlunio weithiau'n faes mae'i nodau'n groes i ddiogelu'r amgylchedd. Yn sicr, gall cynlluniau nad yw eu hamcanion wedi'u hystyried yn briodol amharu ar safon yr amgylchedd (e.e. trwy ddylunio'n wael, dewis deunyddiau gwael, creu tagfeydd a defnyddio tir a chynefinoedd gwerthfawr). Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ystyried adfywio mewn modd mwy cyfannol bellach, fodd bynnag, gan gydnabod y dylai diogelu a gwella'r amgylchedd fod yn rhan annatod o'u hymdrechion i adfywio ardal. I wneud hynny, rhaid i awdurdodau lleol drin a thrafod y mater dan sylw yn gorfforaethol a chydweithio'n dda â'r asiantaethau perthnasol a'r cymunedau lleol.

Materion allweddol

Gall amgylchedd ffyniannus gyfrannu at les economaidd a chymdeithasol. Y gamp, o ran yr amgylchedd, yw hybu ei bwysigrwydd achos y gallai materion megis baw cŵn ymddangos yn ddibwys o'u cymharu ag afiechyd, diweithdra a throseddu. O fynd ati i ddatrys problemau sy'n effeithio ar yr amgylchedd, fodd bynnag, bydd modd gwella iechyd pobl a denu buddsoddwyr i ardal.

Mae cydnabyddiaeth mai'r newid hinsoddol yw'r mater amgylcheddol pwysicaf ac mae rhai pobl o'r farn ei fod yn fwy peryglus na therfysgaeth (Syr David King, Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth San Steffan). Yn ôl Adroddiad Stern, mae lle i fynd i'r afael â'r newid hinsoddol o safbwynt yr economi am y gallai amharu ar yr economi fel arall. Bydd y newid hinsoddol yn effeithio ar ein polisïau ynni a'n ffordd o gwtogi ar garbon, yn ogystal â'n ffordd o ymdopi â thywydd cyfnewidiol a'r ffordd y bydd coed, llwyni ac anifeiliaid yn ymateb i hinsawdd mwy cynnes. Dyma feysydd lle dylai byd llywodraeth leol ysgwyddo rôl ganolog ac, felly, rydyn ni'n gwneud hynny.

Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ddwy ddogfen bwysig am adfywio yn 2010:

Safbwynt WLGA

Mae Strategaeth Amgylchedd Cymru yn pennu'r cyd-destun ynglŷn ag amgylchedd glân a bywiog yng Nghymru, gan gydnabod effaith pobl y wlad ar eu cymdogion a'r byd i gyd. A hwythau'n arweinyddion cymunedol, mae rôl allweddol i'r awdurdodau lleol o ran diogelu'r amgylchedd, gan arwain trwy esiampl a chydnabod, hybu a phwysleisio gwerth amgylchedd ffyniannus i ddeilliannau lleol eraill a nodau amryw bolisïau.

Rhaid inni hybu pwysigrwydd yr amgylchedd fel y bydd mor bwysig â materion cymdeithasol ac economaidd. At hynny, rhaid i fyd llywodraeth leol gydweithio ag asiantaethau eraill i gynnig gwasanaeth cyfun. I'r perwyl hwn, mae WLGA wedi meithrin perthynas gref ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru fel ei gilydd. Rydyn ni wedi llofnodi memoranda dealltwriaeth gyda'r ddau gorff. Yn rhan o'n cytundeb ni ag Asiantaeth yr Amgylchedd, 'Gweithio'n Well ar y Cyd', mae protocolau technegol a gwasanaethol sy'n dangos sut dylai byd llywodraeth leol a'r asiantaeth ymateb ar y cyd i faterion amgylcheddol.

Ynglŷn â gweithgareddau adfywio, mae mwy a mwy o gydnabyddiaeth bod angen i ddatblygu fod yn gynaladwy. Mae pobl yn cwestiynu'r ffyrdd arferol, sydd wedi'u seilio ar dwf, yng ngoleuni'r syniad ein bod ni i gyd yn byw ar yr un blaned (mae rhagor o wybodaeth am hyn ar y tudalennau am ddatblygu cynaladwy). Felly, mae angen delfryd gwahanol o ran economïau'r dyfodol, lle bydd cadernid cymunedau lleol yn un o'r prif ystyriaethau. Ar ben hynny, rhaid hyrwyddo mentrau cymdeithasol sy'n gweithio yn ôl egwyddorion busnes ond, yn bennaf, yn ceisio cyflawni amcanion cymdeithasol neu amgylcheddol.

Llefarwyr WLGA

  • Y Cyng. Dyfed Edwards (Gwynedd): Yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai
  • Y Cyng. Chris Holley (Abertawe): Adfywio ac Ewrop
  • Y Cyng. Bob Wellington (Tor-faen): Trafnidiaeth, Cynllunio a Rhwydweithiau

Dirprwy Lefarwyr CLlLC

  • Y Cyng. Matthew Evans (Casnewydd): Gwastraff
  • Y Cyng. Jeff Edwards (Merthyr Tudful): Datblygiad Economaidd 
  • Y Cyng. Ray Quant (Ceredigion): Cynllunio
  • Y Cyng. Mel Nott (Pen-y-bont ar Ogwr): Trafnidiaeth

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin