14 Ionawr 2010
“Mae cyfraniad pobl ifanc i'r gymdeithas yn werthfawr iawn ac mae'r wythnos yma'n gyfle i ddathlu hynny ymhlith y cyfryngau a'r cyhoedd fel ei gilydd. Rhaid cydnabod natur eu cyfraniad megis helpu i ddiogelu'r amgylchedd a throi ardaloedd yn lleoedd ffyniannus i fyw a gweithio ynddyn nhw. Fyddai hynny ddim yn bosibl, wrth gwrs, heb waith dyfal ac ymroddiad gweithwyr ieuenctid Cymru sy'n gofalu bod materion pobl ifanc ymhlith blaenoriaethau polisïau a gwasanaethau'r awdurdodau lleol.” Y Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes a Medrau, Tachwedd 2009.


