17 Chwefror 2011
Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru gomisiynodd yr ymchwil hon er mwyn helpu'r Gwasanaeth Ieuenctid i barhau i wella'r gwaith mae'n ei wneud ar y cyd â phartneriaethau perthnasol ynglŷn â gwella byd pobl ifanc. Mae'r canlyniadau'n dangos cyfraniad ac effaith amrywiol gan adlewyrchu diben craidd gwaith ymhlith yr ifainc yn unol â'r Safonau Galwedigaethol Gwladol a Datganiad Cwrícwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru. Hynny yw, mae effaith elfen addysgol gwaith ymhlith yr ifainc, trwy berthynas mae pobl ifanc yn ymwneud â hi o'u gwirfodd, yn amlycach yn y rhwydweithiau i'r rhai 14-19 oed a'r partneriaethau dros blant a phobl ifanc nag sydd yn y partneriaethau dros iechyd, gofal cymdeithasol a lles a'r partneriaethau dros ddiogelwch yn y gymuned. Mae cydnabyddiaeth hefyd, fodd bynnag, fod cyfraniad cadarn gwaith ymhlith yr ifainc at y ddwy bartneriaeth olaf yn rhan annatod o broses gwella byd pobl ifanc. Ar ben hynny, mae'r ymchwil yn dangos bod angen i Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru wella ansawdd y cyfraniad pwysig a gwerthfawr hwn ymhellach.


