20 Gorffennaf 2009
Mae gofyn statudol er 2006 i bob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig yng Nghymru sefydlu cyngor ysgol.
Mae cynghorau ysgol yn galluogi plant a phobl ifanc i fod ynghlwm wrth y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw a mynegi eu barn amdanyn nhw. Mae pwysigrwydd hynny wedi'i nodi yng Nghymal 12 Cytundeb y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Plant sy'n dweud bod hawl gan blant a phobl ifanc i fynegi eu barn a disgwyl y dylid cymryd eu sylwadau i ystyriaeth mewn unrhyw fater sy'n ymwneud â nhw.


