14 Rhagfyr 2010
Cyhoeddwyd y canllaw electronig ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae’r canllaw yn cynnwys asesiad risg generig gellir ei addasu ar gyfer amgylchiadau pob ysgol ac yn rhoi enghreifftiau o’r materion bydd ysgolion o bosibl yn eu hwynebu ac awgrymiadau am sut i fynd i’r afael â nhw.
Mewn achosion lle bydd yn rhaid i ysgolion gau, yn achos dysgwyr Blynyddoedd 10–13 dylid ystyried pa drefniadau gellir eu gwneud ar gyfer dysgu o bell neu hunan-astudio, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar gyrsiau arholiad.
Cynghorir penaethiaid i wneud asesiad risg dynamig ar gyfer yr ysgol, ac i ddiweddaru’r asesiad yn rheolaidd.


