Mae dysgu gydol oes yng Nghymru wedi dilyn trywydd unigryw ers datganoli. Nod byd llywodraeth leol ynglŷn â rhoi gwasanaethau addysg a dysgu gydol oes yw galluogi dinasyddion i gyflawni eu llawn dwf a chyfrannu'n effeithiol i gymdeithas gynaladwy a ffyniannus.
Rôl yr awdurdodau lleol
Mae rôl yr awdurdod lleol ym maes addysg yn eglur yn ôl y gyfraith. Mae Deddf 'Addysg' 1944 yn gofyn i bob awdurdod lleol gynnig addysg yn rhad ac am ddim i bawb. Mae'r ddyletswydd honno wedi'i chadarnhau yn Neddf 'Addysg' 1996 sy'n gofyn i awdurdodau lleol 'gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol y gymuned trwy addysg effeithlon' a 'rhoi ysgolion digonol o ran eu nifer, eu cymeriad a'u cyfarpar' i gynnig addysg briodol i ddisgyblion o bob oed a gallu. Mae dyletswydd ar yr awdurdodau lleol ynghylch hyrwyddo safonau gwell yn yr ysgolion, hefyd.
Mae addysg yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol o hyd. Yn benodol, maen nhw wedi ymateb ar y cyd i'r problemau ddaeth i'r amlwg trwy ganlyniadau PISA (astudiaeth sy'n cymharu addysg ymhlith gwledydd) a ddangosodd fod safonau addysg wedi gostwng yng Nghymru.
Mae rôl yr awdurdod lleol ynglŷn ag addysg a hyfforddiant wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf hyn. Mae gwasanaethau gwella addysg yr awdurdodau lleol yn cyflawni mwy a mwy o waith ar y cyd, a'r nod yw y byddan nhw'n gweithio trwy gonsortia rhanbarthol erbyn diwedd 2012.
Mae ad-drefnu ysgolion a chwtogi ar leoedd gwag yn bwysig yng Nghymru, hefyd.
Mae nifer o fentrau arwyddocaol Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar waith awdurdodau lleol a'r ysgolion, gan gynnwys:
Fframwaith Effeithiolrwydd yr Ysgolion
Dyma fframwaith cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer polisïau sy'n anelu at wella byd plant a phobl ifanc i gyd, beth bynnag fo eu cefndir, a chywiro'r amrywio yn yr hyn sy'n deillio o bob ystafell ddosbarth, ysgol ac awdurdod lleol. I gyflawni'r tri nod hynny, mae'r fframwaith yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth:
- Gwella llythrennedd yn yr ysgolion.
- Gwella rhifedd yn yr ysgolion.
- Lleddfu effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ymwneud â buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion ledled Cymru. Mae angen gwario cryn dipyn o arian i wella adeiladau'r ysgolion a bydd angen o leiaf 10–15 mlynedd i wneud hynny. Mae'r rhaglen hon yn wahanol i raglenni adeiladu blaenorol am fod iddi ffordd strategol o drin a thrafod buddsoddi dros 10-15 mlynedd.
Cynlluniau ar gyfer plant a phobl ifanc
Dyma'r cynllun cyffredinol ynglŷn â gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn ardal pob awdurdod lleol. Partneriaethau dros faterion plant a'r ifanc sy'n paratoi'r cynlluniau ym mhob ardal. Mae'r partneriaethau'n cynnwys amrywiaeth helaeth o aelodau megis yr awdurdodau lleol, cyrff iechyd a mudiadau gwirfoddol. Diben y cynlluniau yw:
- Rhoi delfryd strategol a chytuno ar flaenoriaethau fydd yn cyfeirio gwaith partneriaid.
- Disgrifio sut bydd gofynion gwladol a lleol yn cael eu hateb.
- Amlinellu amcanion mesuradwy y cytunwyd arnyn nhw i wasanaethau.
- Pennu cyfraniadau'r partneriaid ynglŷn â chyflawni amcanion ar y cyd.
- Rhoi modd i gomisiynu ar y cyd a chyfuno arian, gan gynnwys cyllidebau craidd.
Cyfnod Sylfaen
Mae hyn yn ymwneud â'r cwrícwlwm a'r trefniadau asesu ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed, ac mae'n effeithio'n uniongyrchol ar weithgareddau'r ysgolion babanod. Diben y cyfnod yw rhoi addysg gyflawn i blant bach trwy gyfuniad o ddysgu mae'r plant eu hunain yn ei sbarduno a dysgu mae oedolion yn ei oruchwylio. Un o brif nodau'r cyfnod yw cyrraedd sefyllfa lle bydd 1 oedolyn i bob 8 o blant, gan gynyddu cyfraniad staff cymwysedig.
Llwybrau Dysgu 14–19
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ofalu y bydd 95% o bobl ifainc sy'n troi'n 25 oed yn barod ar gyfer gwaith medrus neu addysg uwch erbyn 2015. Nod Llwybrau Dysgu 14–19 yw rhoi i'n pobl ifanc gyfle i ddatblygu mewn maes academaidd neu alwedigaethol fel y gallan nhw gyflawni eu llawn dwf. Mae ysgolion, sefydliadau addysg bellach a chwmnïau preifat yn gweithio ar y cyd i gynnig amryw gyfleoedd i bobl ifanc ddod o hyd i'r math o addysg neu hyfforddiant sy'n addas iddyn nhw. Mae hawl gan bawb i fanteisio ar gymorth hyfforddwr personol fydd yn ei helpu i ddilyn ei lwybr dysgu.
Ffeithiau allweddol
- Yn 2010, roedd 467,141 o ddisgyblion yn nhrefn addysg y wlad gan gynnwys ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig.
- Roedd 20% o ddisgyblion cynradd yn cael hawlio prydau'n rhad ac am ddim yn yr ysgol yn 2010. Roedd 17% o'r disgyblion uwchradd a 42% o ddisgyblion yr ysgolion arbennig yn cael gwneud hynny, hefyd.
- £2.18 biliwn fu cyllideb yr awdurdodau lleol ar gyfer addysg yn 2010-11.
Rhagor o wybodaeth


