Mae Addysg a Diwylliant yn bwysig iawn yn ein bywydau dyddiol. Mae addysg ac hyfforddiant yn hollbwysig ar gyfer dyfodol Cymru a'r Undeb Ewropeaidd. Mae cynyddu gwybodaeth a gwell sgiliau yn angenrheidiol ar gyfer datblygiad personol, canfod swydd, cydlyniad cymdeithasol ac ymwybyddiaeth diwylliannol. Mae diwylliant yn rhan o craidd cymdeithas, yn ffordd o ddangos amrywiaethau, hyrwyddo twristiaeth a darparu cyfleoedd i pobl, gan arwain at fywydau hapusach, iachach. Mae'r UE wedi ac yn parhau i ddarparu cyfleoedd newydd a cyffrous i pobl Cymru, megis rhoi y cyfle i fyfyrwyr i fyw ac astudio tramor, annog partneriaethau gefeillio gyda pentrefi, trefi, a dinasoedd yn Ewrop, a darparu cefnogaeth ariannol i ddiogelu sefydliadau diwylliannol, treftadaeth, hanes, a'r iaith Gymraeg yng Nghymru.
Meysydd allweddol ar gyfer llywodraeth leol
Mae awdurdodau lleol yn medru manteisio llawer o raglenni yr UE ym maes addysg a diwylliant. Mae Rhaglen Dysgu Gydol Oes yr UE 2007-13 yn galluogi unigolion o bob oedran i gymryd cyfleoedd dysgu ar draws Ewrop, yn ogystal â hyrwyddo cydweithredu rhwng ysgolion a phrifysgolion Ewropeaidd. Mae'r is-rhaglenni o fewn y Rhaglen, sef Comenius (ysgolion), Erasmus (addysg uwch), Leonardo da Vinci (addysg ac hyfforddiant galwedigaethol), a Grundtvig (addysg oedolion), yn canolbwyntio ar agweddau arbennig o addysg ac hyfforddiant.
Mae Rhaglen Diwylliant yr UE 2007-13 yn cefnogi prosiectau a mentrau sydd yn hyrwyddo amrywiaethau diwylliannol yn Ewrop. Mae'r Rhaglen yn edrych i hyrwyddo mudoledd traws-ffiniol ar gyfer y rhai sydd yn gweithio yn y sector diwylliannol, yn ogystal â datblygu deialog rhyngddiwylliannol. Mae Rhaglen Dinasyddiaeth yr UE 2007-13 yn cefnogi'r rhaglen Diwylliant, gan annog dinasyddion Ewrop i gymryd fwy o ran yn integreddio Ewropeaidd, datblygu teimlad o hunaniaeth Ewropeaidd, a hybu gwell dealltwriaeth rhwng pobl Ewropeaidd.
Efallai fod gan awdurdodau lleol diddordeb hefyd yn Rhaglen Ieuenctid yr UE. Mae'r Rhaglen 'Pobl ifainc yn gweithredu' 2007-13 yn edrych i hyrwyddo dinasyddiaeth actif pobl ifainc, yn ogystal â gwella addysg a hyfforddiant, cyfleoedd i ganfod swydd, a sicrhau fod ieuenctid Ewropeaidd yn rhan o'r gymdeithas. Mae'r UE hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol Chwaraeon yn ein cymdeithas ac hefyd datblygiad Amlieithrwydd yn Ewrop.
Gweithgareddau Swyddfa Ewropeaidd WLGA
Addysg
Mae'r Swyddfa yn gweithio gyda tim Dysgu Gydol Oes a Diwylliant WLGA yng Nghaerdydd, ac hefyd yn gweithio gyda'n cyfeillion yn Swyddfa Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mrwsel ar faterion cyffredin. Mae'r Swyddfa hefyd yn gweithio gyda ysgolion Cymru, gan rhoi cyngor o dro i dro ar gyfleoedd o fewn rhan Comenius o Raglen Dysgu Gydol Oes yr UE. Mae'r Swyddfa hefyd wedi helpu trefnu ymweliadau ysgol o Gymru, er enghraifft, yn Mehefin 2008, helpodd y Swyddfa i sicrhau cyfranogiad dau ddisgybl o ogledd Cymru mewn cyfarfod ffug Cyngor yr UE ym Mrwsel.
Diwylliant
Mae'r Swyddfa yn ymateb yn gyson i ymholiadau o awdurdodau lleol ar Raglen Diwylliant yr UE. O fewn y Rhaglen, mae'r Swyddfa yn canolbwyntio ar gyfleoedd gefeillio ar gyfer cynghorau tref a chymunedol ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r Swyddfa wedi trefnu dau weithdy yn edrych ar cyfleoedd gefeillio o fewn rhaglen 'Ewrop i Ddinasyddion'. Cynhaliwyd gweithdy yng Nghaerfyrddin yn Hydref 2008 a gyflwynodd y cyfleoedd ariannu o fewn y rhaglen i gyfranogwyr, tra canolbwyntiodd gweithdy yn Llandrindod yn mis Mawrth 2009 ar gyfleoedd gefeillio yr UE i gymdeithasau gefeillio a chynghorau tref yng Nghymru. Yn dilyn y gweithdai anfonodd y Swyddfa ffurflenni adborth i'r holl gyfranogwyr er mwyn deall anghenion cymdeithasau a sefydliadau gefeillio yng Nghymru yn well.
Mae'r Swyddfa yn parhau i gefnogi a datblygi y cysylltiadau hanesyddol cryf rhwng Cymru a Llydaw. Cymrodd y Swyddfa ran mewn Gŵyl Rhyng-Geltaidd Lorient yn mis Awst 2008 i gyflwyno cyfleoedd gefeillio Cymru-Llydaw. Mae'r Swyddfa hefyd yn gweithio'n agos ar faterion addysg a diwylliant gyda cyfeillion yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, EUCLID (man cyswllt y D.U. ar gyfer Rhaglen Diwylliant yr UE 2007-13), Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr (LGA), Un Llais Cymru (yn cynrychioli cynghorau tref a chymunedol yng Nghymru), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer dolenni gefeillio Cymru - Affrica, a Chyngor Bwrdeistrefi a Rhanbarthau Ewropeaidd (CEMR).
Aelodau WLGA ar Sefydliadau Ewropeaidd
- Y Cyng. Bob Bright (Cyngor Dinas Casnewydd) yw aelod llawn WLGA ar Bwyllgor y Rhanbarthau yr UE. Mae'r Cyng. Bright yn aelod o Bwyllgor Addysg, Diwylliant, ac Ymchwil (EDUC), a mae'r Swyddfa yn cefnogi gwaith y Cyng. Bright ar y pwyllgor yn gyson. Mae tystiolaeth y Cyng. Bright i Bwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gweld yma: 28 Ebrill 2009; 12 Ionawr 2010
Yn mis Gorffennaf 2010 apwyntiwyd y Cyng. Bright fel rapporteur ar gyfer Opiniwn PyRh yn canolbwyntio ar Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET). Cydlynodd y Cyng. Bright ymateb PyRh i Gyfathrebiad y Comisiwn Ewropeaidd gyda'r teitl 'Ysgogiad newydd ar gyfer cydweithrediad Ewropeaidd mewn VET i gefnogi Strategaeth Ewrop 2020'. Gyda chefnogaeth swyddogion WLGA, ymgynghori gyda swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Leol Cymru ym Mrwsel, a chyngor arbenigwyr VET eraill yn Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, mae'r Cyng. Bright wedi cwblhau Opiniwn sydd yn trafod maes polisi pwysig a fydd yn chwarae rhan allweddol mewn cyfrannu at amcanion Strategaeth Ewrop 2020. Mae prif negeseuon yr Opiniwn yn cynnwys yr angen i gydnabod rhan VET yn cyflymu'r broses adfywiad economaidd yn Ewrop, sicrhau fod y Comisiwn yn gwneud gwaith ystyrlon gyda awdurdodau lleol a rhanbarthol wrth datblygu VET, hyrwyddo pwysigrwydd cymwysterau galwedigaethol a sicrhau eu bod yn ddeniadol i'w gymharu â chymwysterau mwy academaidd, datblygu gwell cysylltiadau rhwng Sefydliadau Addysg Uwch, darparwyr hyfforddiant a busnesau, a phwysleisio symudoledd, hyblygrwydd a phartneriaethau i foderneiddio VET yn Ewrop.
Cyfarfodd y Cyng. Bright gyda cynrychiolwyr o Lywyddiaeth Belgaidd yr UE a'r Comisiwn Ewropeaidd i drafod yr Opiniwn ar 9-10 Medi 2010, yn ogystal â chadeirio cyfarfod Trafodaeth Strwythredig yn PyRh. Cafodd yr Opiniwn ei fabwysiadu yng nghyfarfod EDUC ar 27 Medi, gyda'r mabwysiadu terfynol yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Rhagfyr. Cafodd yr Opiniwn ei fabwysiadu ymhen cyfarfod rhwng Gweinidogion yr UE ar 7 Rhagfyr 2010 i drafod datblygiad VET Ewropeaidd ers Proses Copenhagen 2002. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld ar wefan PyRh ac yma.
- Y Cyng. Ronnie Hughes (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) yw aelod WLGA ar Gyngor Ewrop. Mae'r Cyng. Hughes yn aelod o Gyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol, ac ar hyn o bryd yn sefyll ar y Pwyllgor Addysg a Diwylliant. Yn mis Medi 2009 rhoddodd y Cyng. Hughes cyflwyniad i'r pwyllgor yn Bydgoszcz, Gwlad Pwyl, ar gyfraniad prosiectau diwylliannol i'r economi Cymreig. Mae'r cyflwyniad i'w gweld yma. Mae tystiolaeth y Cyng. Hughes i Bwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (28 Ebrill 2009) i'w gweld yma.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


