Nod Cynllun Rhagoriaeth Cymru yw hyrwyddo'r syniad o ddysgu oddi wrth gymheiriaid a gwella dulliau dysgu ar y cyd o ganlyniad. Rydyn ni'n trefnu achlysuron cyfnewid dysg bob blwyddyn i fwrw golwg ar lwyddiant ac arferion da awdurdodau lleol ledled y DG. Mae'r achlysuron yn rhoi gwybodaeth am wella gwasanaethau ac yn rhoi cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr awdurdodau lleol a sefydliadau gwladol er mwyn cnoi cil ar eich profiadau.
Mae modd gweld manylion a deunydd y rhai a gynhalion ni trwy'r dolenni isod:
Ein dyfodol – ffyrdd iachus o fyw ar Ggfer plant a phobl ifanc
Gorffenaf 2006
Ein strydoedd – strydoedd glân a diogel sy’n cael eu rheoli’n dda
Mehefin 2006
Ein cyngor – cyngor sydd ar gael
Mai 2006
Gwasanaethau rheoleiddio
Hydref 2005
Gwella lles
Hydref 2005
Rheoli gwastraff yn gynaladwy
Hydref 2005
Yn ystod hydref 2006, trefnwyd cyfres o ddiwrnodau agored gan Ragoriaeth Cymru, ar y cyd ag awdurdodau a oedd wedi ennill statws Rhagoriaeth Cymru yn 2006. Roedd gan y rhai a fynychodd y digwyddiadau gyfle i ymweld â’r awdurdodau ac i brofi eu mentrau. Cafodd y deunydd cyflwyno o’r digwyddiadau ei gasglu’n gyfres o ffeiliau Acrobat, ac mae modd cyrchu’r rhain trwy gyfrwng y dolenni a ganlyn:
- Ein Strydoedd (Caerfilli)
- Ein Cyngor (Sir Gar)
- Ein Cyngor (Casnewydd)
- Ein Strydoedd (Abertawe)
- Ein Dyfodol (Castell-nedd Port Talbot)
- Ein Strydoedd (Castell-nedd Port Talbot)
Os ydych chi’n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu os oes gennych ymholiad ynglŷn ag unrhyw ddiwrnod neu gyflwyniadau, byddwch cystal â chysylltu â’r awdurdod lleol priodol yn uniongyrchol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: John Manders
