Cyllidwyd y project hwn o dan raglen arfer da mewn digartrefedd Llywodraeth y Cynulliad, ac mae’n ganlyniad cynnig llwyddiannus ar y cyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Phanel Prif Swyddog Tai Cymru. Comisiynodd y tri sefydliad hyn Caroline Humphreys a Tamsin Stirling i ymgymryd â’r project a wnaethpwyd rhwng mis Medi 2007 a Mehefin 2008.
Deilliodd y project o bryderon a fynegwyd gan ddarparwyr tai (awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a darparwyr tai â chefnogaeth) am yr anawsterau a wynebir ganddynt wrth ailgartrefu troseddwyr a chyn-droseddwyr yn briodol, yn enwedig rhai a ddiffinir fel risg uchel.
Cwmpas y project yn ei grynswth oedd archwilio trefniadau ac arfer ar gyfer lletya troseddwyr 18 oed a throsodd. Roedd yn canolbwyntio’n neilltuol at droseddwyr risg-uchel sydd o dan drefniadau Toreithiog a Blaenoriaethol a’r rhai Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd. Roedd y project:
- yn edrych ar y lefelau o alw am dai gan gyn-droseddwyr, eu llwybrau tuag at dai, a’r cyflenwad tai ar gyfer y grŵp hwn
- yn arolygu arfer a darpariaeth cyfredol a nodi arfer trawiadol ledled y DU
- yn nodi ffyrdd y gellir gwella’r broses o ddarparu llety priodol ar gyfer y grŵp hwn
Defnyddiai’r project amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys arrolwg o’r llenyddiaeth, cyfweliadau gyda budd-ddeiliaid, arolwg holiadur a ddosbarthwyd i sefydliadau tai, cyfiawnmder troseddol a diogelwch cymunedol, dwy astudiaeth unigol a thrafodaethau gyda defnyddwyr gwasanaethau.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch
