1. Gwerthfawrogi pobl hŷn
Cynnal a datblygu'r ymgysylltu
Prif thema ail gyfnod Strategaeth y Bobl Hŷn yw Gwerthfawrogi pobl hŷn – Cynnal a datblygu'r ymgysylltu lle byddwn ni'n ceisio hyrwyddo delweddau cadarnhaol o heneiddio a gofalu bod pobl dros 50 oed yn cael cymryd rhan gymaint ag yr hoffen nhw yn eu cymunedau fel y bydd
ymdeimlad cryfach o ymgysylltu a dylanwadu yn eu plith. Mae'r awdurdodau lleol wedi cyflawni gwaith sylweddol yn y thema hon megis sefydlu ffora i bobl dros 50 i wella'r modd mae nhw'n ymwneud â byd llywodraeth leol a hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Mae sawl awdurdod wedi sefydlu mentrau sy'n dod â phobl hŷn ac ifanc at ei gilydd i feithrin dealltwriaeth a pharch rhwng y cenedlaethau, hefyd.
2. Newid y gymdeithas
Statws a chyfraniad economaidd pobl hŷn
Ail thema Strategaeth Pobl Hŷn Cymru yw Newid y gymdeithas – Statws a chyfraniad economaidd pobl hŷn. Y nod yw llunio polisïau fydd yn helpu'r rhai dros 50 oed i barhau'n weithwyr, dysgwyr, gwirfoddolwyr a chynhalwyr fel y gallan nhw gyfrannu cyhyd ag yr hoffen nhw a byw heb dlodi.
Mae llawer o awdurdodau lleol wedi edrych ar eu harferion cyflogi i ofalu eu bod yn rhoi pob cymorth i bobl hŷn wrth ddenu a chadw staff. Maen nhw wedi cydweithio â phartneriaid hefyd i ofalu eu bod yn mynd i'r afael â thlodi mewn modd cyfun trwy gynnig gwybodaeth gynhwysfawr
am fudd-daliadau i bobl hŷn. At hynny, mae gwaith sylweddol wedi'i gyflawni ynglŷn â rhoi cyfleoedd i bobl hŷn ddatblygu medrau.
3. Lles ac annibyniaeth
Trydedd thema Strategaeth y Bobl Hŷn yw Lles ac annibyniaeth, gan gynnwys gwella iechyd a lles pobl hŷn trwy fentrau hybu iechyd yn ogystal â gwasanaethau rhagorol ac ymatebol sy'n cael eu rheoleiddio'n briodol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Bydd mentrau o'r fath yn helpu pobl hŷn i fyw mor weithgar ac annibynnol ag y bo modd mewn lle addas a diogel o'u dewis. Mae llawer o awdurdodau lleol wedi hwyluso ymgyrchoedd cenedlaethol megis 'Heneiddio'n Dda' a 'Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn', gan eu haddasu yn ôl anghenion lleol. Mae'r awdurdodau wedi meithrin cysylltiadau cryf â'r GIG, y sector gwirfoddol ac amryw bartneriaid eraill hefyd, i ofalu bod materion pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu mewn
cynlluniau a strategaethau lleol.
4. Gwneud iddo ddigwydd
Defnyddio'r strategaeth
Pedwaredd thema Strategaeth Pobl Hŷn Cymru yw Gwneud iddo ddigwydd – Defnyddio'r strategaeth, sy'n ymwneud â gwneud y gorau o'r arian ar gyfer y strategaeth i ofalu y bydd yn sbarduno newid ac arloesi ym mhob sector, gan wella gwasanaethau i bobl hŷn, bod yn fan cychwyn cynllunio effeithiol ar gyfer mwy a mwy o bobl hŷn ac adlewyrchu eu pryderon nhw. Mae gan y cynghorau gydlynwyr sy'n datblygu ac yn defnyddio'r strategaeth yn lleol. Mae rôl hanfodol i'r cynghorwyr sy'n hyrwyddo materion pobl hŷn ym mhob awdurdod, hefyd.


