Mae gofal cymdeithasol o’r radd flaenaf yn rhan hanfodol o’n cymdeithas a’n bröydd.
Mae awdurdodau lleol, drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, yn gyfrifol am ddiogelu'r bobl a'r
plant mwyaf bregus yn ein bröydd.
Ceir tystiolaeth sy'n dangos fod ansawdd gwasanaethau cymdeithasol Cymru wedi gwella cryn dipyn, ond bod lefel y cyflawniad yn parhau i amrywio ar hyd a lled Cymru. Mae'r disgwyliadau yn uwch nag erioed ac mae ansawdd gofal cymdeithasol yn feincnod pwysig ar gyfer mesur cyflawniad awdurdodau lleol.
Mae gan bawb sy'n gweithio ym myd llywodraeth leol gyfrifoldeb i ofalu bod y gwasanaethau a roddir yn diwallu anghenion bröydd. I roi byd llywodraeth leol yng Nghymru ar ben ffordd, cafodd 9 ymrwymiad eu llunio a'u cymeradwyo mewn Cynhadledd y Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2004. Fe gaiff cynnydd ei adolygu bob hyn a hyn yn erbyn yr ymrwymiadau hyn.
Bydd angen arweiniad cadarn i gadw at yr ymrwymiadau hyn. Gan hynny, mae'n rhaid i fyd llywodraeth leol yng Nghymru gydweithio ar lefel wleidyddol, corfforaethol a phroffesyddol ac ar draws ffiniau, i fanteisio ar y gwelliannau cyfredol.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd am enw da a chyflawniad pob un o adrannau gwasanaethau cymdeithasol Cymru.
- Defnyddio medrau a gwybodaeth ar y cyd i helpu'r cynghorau mae angen cymorth arnyn nhw er mwyn gwella'u cyflawniad.
- Gofalu bod gwasanaethau'n canolbwyntio ar yr unigolyn a bod anghenion unigolion a theuluoedd wrth wraidd gwaith cynllunio, blaenoriaethau a threfniadau cynnal y gwasanaethau hynny.
- Gweithio ar y cyd i ofalu bod adnoddau'n cael eu defnyddio yn effeithiol a bod prosesau comisiynu yn hwyluso gwerth am arian, agwedd ymatebol ac ansawdd.
- Datblygu trefniadau'r partneriaethau lleol i roi gofal o'r radd flaenaf mewn modd cyfun sy'n briodol i'r gwasanaeth dan sylw.
- Anelu at sefydlu trefn safonol ar gyfer arferion cyflogi, amodau gwaith a chyfleoedd fel na fydd unrhyw gyngor yn cael ei ffafrio na'i rwystro a bydd modd hyrwyddo manteision i'r cynghorau a'r gweithwyr i gyd.
- Cael adnoddau, galluedd, medrau, gwybodaeth ac arbenigedd digonol er mwyn rhoi gofal o'r radd flaenaf sy'n adlewyrchu'r arferion gorau ac anghenion pobl leol.
- Ychwanegu at y cymorth arbenigol cyfredol er mwyn hyrwyddo a chydlynu rhaglen i ddibenion gwella, datblygu sefydliadau a chynnal ymchwil.
- Cydweithio'n adeiladol â'r cyrff rheoleiddio ac arolygu allanol i hyrwyddo'r arferion gorau a chyrraedd safonau uchel.


