Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr / Be a Councillor / Cynghorydd - Canllawiau i ymgeiswyr: Etholiadau lleol Cymru 2012 / 8. Sut i fynd yn gynghorydd?
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

8. Sut i fynd yn gynghorydd?

Camau cyntaf i fod yn gynghorydd

Wrth i’r etholiad ym Mai 2012 agosáu ac os yw plaid wedi eich dewis i fod yn ymgeisydd, neu os ydych yn ymgeisydd annibynnol, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod wedi cael eich ‘enwebu’n swyddogol’. Hynny ydy, rhaid i chi lenwi papur enwebu gyda llofnod 10 o etholwyr cofrestredig yn y ward rydych am ei gynrychioli. Cysylltwch ag adran gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol i gael y papurau yma. Rhaid i chi hefyd gadarnhau’n ysgrifenedig eich bod yn caniatáu’r enwebiad. Os ydych yn ymgeisydd dros blaid wleidyddol gofrestredig, rhaid i chi hefyd gyflwyno tystysgrif gan swyddog enwebu’r blaid sy’n caniatáu i chi sefyll a defnyddio disgrifiad a logo’r blaid. Os ydych yn ymgeisydd annibynnol, ni chewch ddisgrifio eich hun fel unrhyw beth ar wahân i ‘annibynnol’.

Rhaid cyflwyno’r dogfennau angenrheidiol 19 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad.