Bron pawb, yw’r ateb syml, cyn belled eich bod:
- yn dod o Brydain, neu’n ddinesydd yn y Gymanwlad neu Undeb Ewrop;
- yn 18+ oed ; neu
- wedi cofrestru i bleidleisio yn yr ardal neu wedi byw, gweithio neu yn berchen ar eiddo yn yr ardal ers o leiaf flwyddyn cyn etholiad.
Fodd bynnag, ni allwch fod yn gynghorydd os ydych…
- yn gweithio i’r cyngor yr ydych yn ceisio bod yn gynghorydd ar ei gyfer neu’n gweithio i gyngor arall mewn swydd sydd â chyfyngiadau gwleidyddol;
- yn fethdalwr neu wedi cael gordal gwerth dros £2,000;
- edi eich dedfrydu i gyfnod o dri mis neu ragor yn y carchar (gan gynnwys dedfrydau gohiriedig) yn ystod y pum mlynedd cyn yr etholiad; neu
- wedi eich gwahardd o dan unrhyw ddeddf am arferion llygredig neu anghyfreithlon.
Mae meini prawf penodol eraill ynglŷn â bod yn gymwys neu’n anghymwys. Dylai pob ymgeisydd mewn etholiad ddarllen y canllawiau diweddaraf ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Mae gennych ddau ddewis – gallwch fod yn ymgeisydd annibynnol neu gallwch fod yn ymgeisydd ar ran cylch/plaid wleidyddol.
Y naill ffordd neu’r llall, bydd angen barn glir arnoch am faterion lleol a bydd y cyhoedd yn eich holi am y gwahaniaeth rhyngoch chi â’r
ymgeiswyr eraill. Gofalwch eich bod yn gwybod am waith y cyngor ar hyn o bryd a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol oherwydd bydd pobl am glywed eich barn amdanyn nhw - a beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol.
Mae pleidiau gwleidyddol lleol eisoes yn chwilio am bobl sydd am eu cynrychioli. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn aelod o’r blaid eto. Maen nhw’n gallu trafod y dewisiadau sydd ar gael i chi. Cysylltwch â’r pleidiau isod i gael gwybod rhagor:
Plaid Cymru - www.plaidcymru.org
Y Blaid Lafur yng Nghymru - www.welshlabour.org.uk
Ceidwadwyr Cymru - www.welshconservatives.com
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - www.welshlibdems.org.uk
Gall cylch annibynnol Cymdeithas Llywodraeth Leol roi gwybodaeth i gynghorwyr ac ymgeiswyr annibynnol. Dyma’u gwefan - www.independentgroup.lga.gov.uk
Cewch restr lawn o’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn:
www.electoralcommission.org.uk
“Cofiwch eich bod yn gynghorydd ar gyfer eich etholwyr i gyd, gan gynnwys y rhai a bleidleisiodd i’r gwrthbleidiau neu na wnaeth bleidleisio o gwbl!”


