Rydych chi yma: Hafan / Bod yn gynghorydd 2012 / Cynghorydd - Canllawiau i ymgeiswyr: Etholiadau lleol Cymru 2012 / 6. A fydda i’n cael fy nhalu?
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

6. A fydda i’n cael fy nhalu?

Wedi’i diweddaru fis Ionawr 2012

A chithau’n gynghorydd, bydd gyda chi hawl i gael cyflog am eich gwaith. Bydd pob cynghorydd yn cael cyflog sylfaenol a bydd cyflog ychwanegol i’r rhai sy’n cyflawni cyfrifoldebau megis aelod o’r cabinet neu gadeirydd pwyllgor.

Panel Annibynnol Cymru dros Gydnabyddiaeth Ariannol sy’n pennu cyflogau cynghorwyr. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n talu lwfansau gwahanol ar hyn o bryd, ond roedd y panel am ofalu y byddai’r cynghorwyr i gyd yn cael yr un cyflog sylfaenol (mae’r cyflogau ychwanegol yn dibynnu ar rôl y cyngor a pha mor fawr yw e). Pennodd y panel gyflogau ar gyfer 2012-13 yn ei adroddiad blynyddol fis Rhagfyr 2011.

O 1af Ebrill 2012, bydd pob cynghorydd yng Nghymru yn cael cyflog sylfaenol o £13,175. Mae manylion y cyflogau ychwanegol yn adroddiad blynyddol y panel: www.wales.gov.uk/irpwsub/home/?skip=1&lang=en

Yn ogystal â’r cyflog sylfaenol (a’r cyflog ychwanegol os ydych chi’n cyflawni rôl uwch) byddwch chi’n cael hawlio lwfans ar gyfer treuliau teithio a byw, a hyd at £403 y mis ar gyfer gofalu am blant neu ddibynyddion pan foch chi’n cyflawni gwaith ar ran y cyngor. Bydd y cyngor yn cyhoeddi manylion eich cyflog ac unrhyw lwfansau a gewch chi.

Mae rhagor o fanylion ar wefan Panel Annibynnol Cymru dros Gydnabyddiaeth Ariannol (www.wales.gov.uk/irpwsub/home/?skip=1&lang=en) a gyda’ch awdurdod lleol. 

 

Beacouncillor top tips“Os oes gennych swydd, gwnewch yn siŵr y bydd eich cyflogwr yn gwbl gefnogol os cewch eich ethol”