Mae cynghorau yn gwneud eu gorau glas i gefnogi cynghorwyr. Gall hyn gynnwys trefnu amserau cyfarfod hyblyg neu gynnig cymorth y swyddogion cefnogi cynghorwyr.
Gan amlaf, byddwch hefyd yn cael cyfrifiadur, hyfforddiant am sut i’w ddefnyddio ac yn cael defnyddio mewnrwyd y cyngor. Os cewch eich ethol, bydd gennych yr hawl i roi eich barn am amserau cyfarfodydd ac yn cael cymorth i drefnu eich gwaith.
Fel gydag aelodau newydd o staff, mae cynghorau yn paratoi sesiynau ymsefydlu i gynghorwyr newydd. Ar ôl cael eich ethol, gofynnwch am gopi o becyn ymsefydlu eich cyngor ac am amserlen o’r sesiynau cyflwyno a hyfforddiant. Bydd y rhain yn trin a thrafod materion fel swyddogaethau yn y cyngor, arian a gweithio yn eich ward.
Mae llawer o gynghorau yn cynnig mentoriaid i gynghorwyr newydd. Mae’r rhain naill ai ar gael yn ffurfiol drwy’r cyngor neu’n aml yn anffurfiol gan gynghorwyr profiadol. Mae pleidiau gwleidyddol yn eu cynnig hefyd. Mae rhai cynghorau hefyd yn gwneud trefniadau eraill i gynorthwyo. Gall hyn gynnwys penodi swyddog i’ch ‘arwain’ a’ch cynorthwyo i ymsefydlu neu gynghorydd profiadol arall i’ch mentora. Gofynnwch a oes gwasanaethau o’r fath ar gael. Mae cyrff cenedlaethol yn cynnig rhai gwasanaethau os nad ydyn nhw ar gael yn lleol.
Yn 2012 ac wedi hynny, bydd yn ofynnol i gynghorau roi’r cyfle i gynghorwyr gael cyfweliadau datblygu personol i asesu eu hanghenion er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni a datblygu eu rôl. Gofynnwch am gyngor a chefnogaeth yn y maes yma.
“Ddoe, roeddech chi’n un o’r werin bobl ond, heddiw, dyma chi’n gynghorydd. Bydd llawer o bobl yn eich ffonio i’ch llongyfarch ond bydd ambell un yn gofyn ichi ddatrys rhyw broblem ar ei ran. Yn ôl pob tebyg, byddwch chi’n gwybod y nesaf peth i ddim am y mater dan sylw ac, felly, dylech chi fynd at swyddogion y gwasanaethau democrataidd. Byddan nhw’n eich helpu i drin a thrafod trefn ymholi’r cynghorwyr. Ar y llaw arall, os oes mentor gyda chi, ewch at hwnnw.”


