Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr / Be a Councillor / Cynghorydd - Canllawiau i ymgeiswyr: Etholiadau lleol Cymru 2012 / 4. Beth fydd disgwyl i mi ei wneud?
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

4. Beth fydd disgwyl i mi ei wneud?

Mae pobl yn disgwyl llawer gan gynghorwyr. Mae’n waith cyfrifol sy’n cymryd llawer o’ch amser ond mae hefyd yn wobrwyol dros ben. Fel aelod etholedig, bydd angen i chi ddal dau ben llinyn ynghyd o ran gweithio yn eich cymuned a’ch cyngor fel cynghorydd yn ogystal â gwneud eich swydd ‘arferol’ os ydych yn gweithio.

Cyn ystyried bod yn gynghorydd, gallech drafod y peth gyda’ch teulu a’ch cyfeillion yn gyntaf fel eu bod yn deall y bydd angen eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth arnoch chi. Mae’n bosib y byddwch yn treulio cryn dipyn o’ch amser rhydd yn trin a thrafod gwaith y cyngor.

Ar gyfartaledd, amcangyfrifir bod cynghorwyr yn treulio gwerth tri diwrnod yr wythnos yn ymwneud â gwaith y cyngor. Mae llawer o gyflogwyr yn cydnabod gwerth gwaith cynghorwyr. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r medrau y byddwch yn eu hennill yn y rôl ac yn cynnig amser neu
hyblygrwydd i chi gyflawni eich dyletswyddau.

Mae rhai wedi cymharu’r diwrnod cyntaf ar ôl cael eich ethol yn gynghorydd â’r ‘diwrnod cyntaf mewn ysgol newydd. Hwyrach na fyddwch yn gwybod pwy yw pwy, ble mae angen i chi fynd na beth ydych i fod i’w wneud’. Mae digonedd o gymorth a chyngor ar gael gan swyddogion, cynghorwyr profiadol eraill, eich cylch gwleidyddol a chyrff cenedlaethol.

Ar ôl eich ethol, chi fydd llais eich cymuned neu eich etholaeth (mae nifer o gynghorwyr yn ei galw’n ‘ward). Byddwch hefyd yn cynrychioli unigolion, busnesau a hyd yn oed y rhai na wnaeth bleidleisio i chi. Gweithgareddau lleol fel cynnal cymorthfeydd rheolaidd a chynorthwyo pobl leol gyda’u cwynion neu eu problemau yw’r meysydd pwysicaf o’ch gwaith fel cynghorydd yn nhyb y trigolion.

Bydd angen i chi siarad gyda’r gymuned a deall eu hanghenion a’u teimladau i’r dim. Nid oes modd cynorthwyo pawb ond bydd angen i chi egluro eich penderfyniadau yn gwbl agored a gofalu bod barn y trigolion yn cael ei chlywed – chi yw eu llais yn y cyngor. Bydd angen i chi hefyd egluro polisïau a safbwyntiau’r cyngor a gofalu bod y gymuned yn deall y rhesymau dros rai penderfyniadau.Mae bod yn gynghorydd yn fraint ac yn wobrwyol ond mae angen ymroddiad, amynedd a chryfder a gall fod yn waith anodd dros ben.

I reoli eich gwaith fel cynghorydd, dylech:

  • Gynnal cymorthfeydd – yn rheolaidd ac yn aml. Hysbysebwch y rhain ymlaen llaw a’u cynnal mewn mannau hwylus ar adegau cyfleus 
  • Anfonwch gylchlythyrau a chofiwch ymateb i alwadau ffôn, negeseuon e-bost a llythyrau bob amser 
  • Ystyriwch sut y gallech ddefnyddio cyfryngau fel rhwydweithio cymdeithasol, blogiau a Twitter i dynnu sylw ac ymgysylltu â’r gymuned
  • Rhwydwaith – ymgyfarwyddwch â’ch ardal, cylchoedd cymunedol, asiantaethau ac ati, a byddwch yn amlwg
  • Defnyddiwch gyfryngau lleol – beth yw’r ffordd orau o gyfleu eich neges? Cymerwch ofal os ydych yn aelod o blaid wleidyddol rhag ofn bod canllawiau ganddyn nhw am bwy sy’n siarad gyda’r cyfryngau.

Mae disgwyl i chi hefyd fynychu cyfarfodydd y cyngor a phwyllgorau, cyfarfodydd cymunedol yn ogystal â chyfarfodydd unrhyw bartneriaethau neu gyrff allanol rydych yn aelodau ohonyn nhw. Os ydych yn aelod o blaid neu gylch gwleidyddol, bydd disgwyl i chi fynychu cyfarfodydd, sesiynau
hyfforddiant ac achlysuron y blaid. Mae disgwyl i bob cynghorydd gynnal y safonau ymddygiad uchaf. Mae cynghorwyr yn rhwym i gôd ymddygiad statudol sy’n amlinellu beth sydd i’w ddisgwyl gan gynghorwyr. Mae modd cyfeirio achosion o dorri’r côd yma at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gallech cael eich gwahardd rhag bod yn gynghorydd.

Mae’r côd ymddygiad yn seiliedig ar:

  • Roi pobl eraill yn gyntaf 
  • Gonestrwydd 
  • Didwylledd ac ymddwyn yn briodol 
  • Dyletswydd i gynnal y gyfraith 
  • Stiwardiaeth 
  • Bod yn wrthrychol wrth wneud penderfyniadau 
  • Cydraddoldeb a pharch 
  • Bod yn agored 
  • Atebolrwydd

 

 

Beacouncillor top tips“Cofiwch beth oedd yn eich maniffesto - bydd eich etholwyr yn siŵr o gofio ac yn eich atgoffa ar yr adeg waethaf - fel arfer yn gyhoeddus ar ôl i chi fethu ei gyflwyno! FODD BYNNAG, ni allwch datrys pob problem. Felly, peidiwch â digalonni os ydych wedi methu ar ôl gwneud eich gorau.”