Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Adfywio a'r amgylchedd / Ewrop a WLGA
 

Ewrop a WLGA

EwropMae rhagor o wybodaeth am y pwnc yma ar Ragorwyd WLGA. Rhaid mewngofnodi i'w darllen.

Mae'r Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar bobl, teuluoedd, cwmnïau a sefydliadau Cymru i gyd. Mae'n effeithio ar safon y nwyddau a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu prynu, yn dylanwadu ar ansawdd yr amgylchedd ac yn un o bartneriaid pwysicaf byd masnachol Cymru.

Mae dylanwad yr Undeb Ewropeaidd ar bob agwedd ar fyd llywodraeth leol yn cynyddu, ac mae swyddogaeth bwysig i'r awdurdodau lleol ynghylch gofalu bod yr undeb o fantais i ddinasyddion Cymru. O ganlyniad, sefydlodd WLGA ei swyddfa ei hun ym Mrwsel fis Ebrill 2003 i roi cymorth penodol am faterion Ewrop i'r awdurdodau sy'n aelodau ohoni. Lleolir y swyddfa yn Nhy Cymru gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel.

Mae WLGA yn cefnogi ac yn hyrwyddo swyddogaeth byd llywodraeth leol yn Ewrop, gan gydweithredu â sefydliadau allweddol Ewrop ar adeg dyngedfennol parthed pynciau pwysig megis polisïau rhanbarthol, amaethyddiaeth a datblygu cefn gwlad, trafnidiaeth, yr amgylchedd a'r farchnad fewnol.

Pam mae Ewrop yn bwysig i fyd llywodraeth leol a pham mae byd llywodraeth leol yn bwysig i Ewrop:

  • Gweithredu: Gall yr awdurdodau lleol gyfrannu at ansawdd mentrau yr Undeb Ewropeaidd trwy nodi ffyrdd o'u gwneud nhw'n fwy ymarferol.
  • Ariannu: Mae arian yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn i lawer o'r awdurdodau lleol - boed trwy'r cronfeydd strwythurol neu fentrau eraill.
  • Deddfu: Mae hyd at 70% o'r deddfau sy'n effeithio ar yr awdurdodau lleol yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd.
  • Dysgu oddi wrth eraill: Mae gan awdurdodau lleol ddigon i'w ennill trwy gyfnewid arferion da gyda chyrff cyfatebol gwledydd eraill Ewrop.
  • Dod a'r Undeb Ewropeaidd yn nes at y werin bobl: Mae'r ffordd mae awdurdodau lleol yn rhoi deddfau'r Undeb Ewropeaidd ar waith yn hanfodol ynghylch llywodraethu Ewrop yn effeithiol a delwedd yr Undeb.

O ganlyniad, mae byd llywodraeth leol Cymru yn:

  • codi ymwybyddiaeth o'r undeb ymhlith cymunedau a chwmnïau lleol;
  • awyddus i weithio ar y cyd i hyrwyddo buddiannau Cymru yng nghyd-destun yr Undeb Ewropeaidd;
  • ysgwyddo cyfrifoldeb am roi llawer o bolisïau a deddfau'r undeb ar waith;
  • cymryd rhan flaengar ynghylch cynnal rhaglenni'r cronfeydd strwythurol;
  • cynnal cysylltiadau gwerthfawr a hirsefydlog â rhanbarthau eraill Ewrop sy'n hwyluso cyfleoedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol;
  • helpu i lunio deddfau a pholisïau yr Undeb Ewropeaidd trwy Bwyllgor y Rhanbarthau.

Mae WLGA yn cefnogi partneriaethau rhwng byd llywodraeth leol a chyrff eraill, ac yn hyrwyddo newidiadau yn sefydliadau, deddfau a pholisïau Cymru, y DG a'r Undeb Ewropeaidd er mwyn diwallu anghenion y dinasyddion lleol.

Mae WLGA hefyd yn cydweithio'n agos â Swyddfa Ryngwladol Llywodraeth Leol (LGIB), sy'n gweithio ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr yn Ewrop a'r byd ehangach. Mae WLGA a'r LGIB yn cydweithio i hyrwyddo buddiannau byd llywodraeth leol ymhlith sefydliadau Ewrop a gweddill y byd, ac mae un o staff yr LGIB yn gweithio yn swyddfa WLGA yng Nghaerdydd.

Y Cyng. Chris Holley (Abertawe)
Llefarwr dros faterion UE ac Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe

Ymgynghorwyr Ewropeaidd WLGA:
Neville Davies (Sir Gaerfyrddin)
Sasha Davies (Ynys Môn)
Mike Jones (Bro Morgannwg)
Peter Mortimer (Rhondda Cynon Taf)

Mae rhagor o wybodaeth gan: Simon Pascoe