Mae 1,264 o gynghorwyr yn gweithio i 22 cyngor unedol. Mae oddeutu 800 o gynghorwyr hefyd yn gweithio i 735 cyngor cymuned a thref.
Mae gan 22 awdurdod lleol Cymru rôl ganolog o ran llywodraethu Cymru. Mae byd llywodraeth leol yng Nghymru yn cynnig yr arweiniad a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar economïau a chymunedau lleol cynaladwy. Mae cynghorau Cymru yn gwario dros £8 biliwn ac yn cyflogi dros 150,000 o bobl wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy’n effeithio ar fywydau pawb.
Cynghorau yw’r cyflogwr mwyaf yn eu hardal o gryn dipyn ac maen nhw’n cyfrannu’n sylweddol at yr economi leol.
Mae cynghorau yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau personol, cymunedol ac amgylcheddol i unigolion a chymunedau o’r ‘crud i’r bedd’, gan gynnwys:
- Addysg
- Tai
- Gwasanaethau cymdeithasol
- Priffyrdd a thrafnidiaeth
- Rheoli gwastraff
- Hamdden a diwylliant
- Amddiffyn defnyddwyr
- Iechyd yr amgylchedd
- Cynllunio
- Datblygu’r economi
- Gwasanaethau amgylcheddol
- Cynllunio ar gyfer argyfwng
Rhaid i gynghorau gynnig rhai gwasanaethau statudol yn ôl y gyfraith a gallen nhw ddewis cynnig gwasanaethau eraill. Mae’n gyfrifoldeb statudol ar gynghorau i gynnig gwasanaethau lleol fel gofal cymdeithasol, arolygu iechyd yr amgylchedd a rheoli datblygiadau cynllunio. Maen nhw’n cyflwyno rhai gwasanaethau naill ai’n uniongyrchol, ar y cyd â sefydliadau eraill, neu’n comisiynu eraill fel cwmnïau preifat neu wirfoddol i gyflwyno gwasanaethau ar eu rhan. Nid gwneud elw yw’r prif nod i gynghorau er eu bod yn cynnig rhai gwasanaethau masnach fel arlwyo yn ogystal â gwasanaethau fel canolfannau hamdden y gall y sector preifat eu cynnig hefyd.
Daw’r rhan fwyaf o arian ar gyfer gwasanaethau’r cynghorau yn bennaf drwy Gymorthdaliadau Cynnal Refeniw (RSG) Llywodraeth Cymru. Mae cymorthdaliadau penodol, cyfraddau busnes, incwm a enillir (fel ffioedd parcio) a threth y cyngor, wrth gwrs, yn ategu’r rhain. Ar hyn o bryd, mae gan gynghorau gryn dipyn o hyblygrwydd lleol am sut i flaenoriaethu a defnyddio eu hadnoddau. Gwasanaethau addysg, gwasanaethau cymdeithasol a thai sy’n gwario fwyaf.
Er ei bod yn peri cryn ddadlau, treth y cyngor yw’r dreth fwyaf agored yn y DG yn ôl pob tebyg – mae pawb yn gwybod faint maen nhw’n ei dalu a ble mae’r arian yn mynd gan fod cynghorau yn rhoi’r wybodaeth yma gyda biliau treth y cyngor. Faint o bobl sy’n gwybod faint o TAW neu drethi tanwydd maen nhw’n ei wario bob blwyddyn heb sôn am sut mae’r arian yn cael ei wario? Gall pobl hefyd ddadlau yn erbyn band treth y cyngor y maen nhw ynddo yn ogystal â chyflwyno cais am amrywiaeth o ostyngiadau a chefnogaeth yn seiliedig ar eu hamgylchiadau personol. Dim ond 4.2% o drethi cenedlaethol y DG yw treth y cyngor a dim ond 20% o wariant cynghorau lleol y mae’n talu amdano yng Nghymru ar gyfartaledd. Mae treth y cyngor yn mynd tuag at dalu am heddweision a swyddogion tân yn ogystal ag amrywiaeth eang gwasanaethau’r cyngor.
Mwy na darparwr gwasanaethau…
Mae cynghorau yn cynrychioli eu cymunedau lleol yn ddemocrataidd ac yn annog pobl leol i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Yn amlwg, dyma brif rôl cynghorwyr etholedig.
Mae cynghorau yn rhan annatod o fywydau a dyfodol eu cymunedau ac maen nhw mewn sefyllfa unigryw i arwain cymunedau.
Mae arwain y gymuned yn golygu rhoi gweledigaeth i’r gymuned a chydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat i wireddu’r weledigaeth. Yn y pen draw, maen nhw’n gwneud hyn drwy bartneriaethau, strategaethau y mae pawb yn cytuno arnyn nhw, cydweithio a rhannu adnoddau.
Mae gan gynghorau rym stratudol i hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd. Mynegir hyn drwy’r strategaeth gymunedol fel arfer. Mae’n ddyletswydd ar y cyngor i baratoi strategaeth gymunedol a ddylai ddod â phob partner ynghyd a rhoi gweledigaeth a chyfeiriad hirdymor i bob rhan o’r ardal leol. Mae’r cyngor hefyd yn paratoi nifer o strategaethau pwysig eraill gan gynnwys cynllun datblygu lleol, strategaeth ar gyfer plant a phobl ifainc yn ogystal â strategaeth iechyd a lles.
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol a moesol ar y cyngor i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac ystyried yr anghenion amrywiol am wasanaethau lleol yn eu cymunedau. Rhaid i’r cyngor hyrwyddo cydraddoldeb gan ei fod yn darparu gwasanaethau, yn gorff democrataidd sy’n cynrychioli holl fuddiannau’r gymuned, yn gyflogwr o bwys ac yn arweinydd cymunedol.
Mae dyletswydd gyfreithiol unigryw ar bob corff statudol yng Nghymru, gan gynnwys cynghorau, i hyrwyddo datblygu cynaladwy. Mae cyfyngiadau amgylcheddol wedi’u pennu y mae’n rhaid i gynghorau a dinasyddion gadw atyn nhw ym mhob maes. Felly, er mwyn i fyd llywodraeth leol fod yn gynaladwy, dylai baratoi ar gyfer ffyniant yn lle cyfoeth. Dylai hefyd gynnig gwasanaethau ac adnoddau lleol cynaladwy yn ogystal â deall bod angen byw o fewn ffiniau amgylcheddol.
Mae fframwaith y gwasanaethau cyhoeddus yn datblygu o hyd. Er bod y cynghorau'n gyfrifol am ofalu bod sawl gwasanaeth ar gael, nid y cynghorau fydd yn eu rhoi bob tro. Mae'n bosibl mai mudiad gwirfoddol, cwmni preifat neu'ch cyngor ar y cyd â chyngor arall neu ryw asiantaeth fydd yn gwneud hynny. Mae ehangder y gwasanaethau'n newid hefyd achos bod mwy a mwy o bwyslais a disgwyl yn Llywodraeth Cymru y dylai gwasanaethau megis addysg, gwastraff a gofal cymdeithasol gael eu rhoi ar y cyd neu'n rhanbarthol.
“Edrychwch ar wefan y cyngor i weld pa bwyllgorau craffu sydd yn y cyngor a’r math o waith maen nhw’n ei wneud. Drwy wneud hynny, bydd gennych yr wybodaeth berthnasol pan fo rhywun yn gofyn beth fyddai orau gennych chi.”


