![]() |
Cyflwynwyd Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru yn ffurfiol ar 22ain Ionawr 2008 mewn cynhadledd o'r enw ‘Arwain y Ffordd: Fyddwch chi'n croesawu'r Cyfle?’ yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Darlledwr Sarah Dickens gyflwynodd yr achlysur a ddenodd dros 120 o bobl o'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn bennaf, gan gynnwys yr awdurdodau lleol, yr heddluoedd a'u hawdurdodau, y gwasanaethau tân ac achub, y parciau cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad. Ymhlith y siaradwyr roedd yr Arglwydd Herman Ouseley, cyn Gadeirydd y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol, Alison Ward, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, a Ruth Marks, Cyfarwyddwr RNIB Cymru. Yn eu hareithiau, sonion nhw am bwysigrwydd amlygu arweiniad ynghylch cydraddoldeb.
Dyma nodau'r gynhadledd:
- astudio pwysigrwydd arweiniad ac ymrwymiad i gydraddoldeb er mwyn cynnig gwasanaethau yn ôl deilliannau;
- dangos sut mae'r fframwaith yn berthnasol i bolisïau cyhoeddus ehangach Cymru a Rhaglen Gwella Cymru;
- meithrin amgyffred o'r modd y gall y fframwaith helpu i roi gwasanaethau gwell i gymunedau.
Yn ystod y prynhawn, cymerodd y rhai oedd yno ran mewn pum gweithdy a ganolbwyntiodd ar:
- mynd i'r afael â'r fframwaith a hunanasesu;
- gwella gwasanaethau o safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol;
- arwain y gymuned a chynnig gwasanaethau – cydraddoldeb a materion gwella;
- arwain rhaglen gwella cydraddoldeb
- mynd i'r afael ag anffafrio a chynnig gwasanaethau gwell – cyflawni'r dyletswyddau ynghylch cydraddoldeb a chymathu'r fframwaith.
Mae canfyddiadau'r gweithdai, ynghyd â'r areithiau a'r cyflwyniadau a roed yn ystod y gynhadledd, ar gael i'w codi a'u darllen o dan 'cyhoeddiadau perthnasol'.
‘Mae Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru wedi'i lunio i reoli a hyrwyddo cydraddoldeb yn y gwasanaethau cyhoeddus. Dylai'r fframwaith osod sylfaen ar gyfer cymathu cydraddoldeb ym mhrif ffrwd gwaith byd llywodraeth leol fel y bydd yn un o'i brif egwyddorion ac yn arwain at wella parhaus mewn gwasanaethau, polisïau ac arferion cyflogi.’
Stuart Speeden, Canolfan Astudio Polisïau Lleol, Prifysgol EdgeHill
Mae rhagor o wybodaeth gan: Paula Walters

