Mae’r argraff gyffredinol o waith beunyddiol cynghorydd yn amrywio’n helaeth. Y gwir amdani yw bod cynghorwyr yn gyfrifol am sawl maes ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae angen i gynghorwyr gydbwyso anghenion a lles eu cymuned, eu plaid wleidyddol (os ydyn nhw’n aelod) yn ogystal â’r cyngor yn gyffredinol.
Mae angen ymrwymiad personol i fod yn gynghorydd. I allu gwneud y gwaith yn llwyddiannus, bydd yn cymryd llawer iawn o’ch amser a hynny ar ben ymrwymiadau eich bywyd personol a’ch gwaith. Fodd bynnag, mae bod yn gynghorydd yn fraint ac yn ffordd wobrwyol o wasanaethu’r cyhoedd. Byddwch mewn sefyllfa i allu gwella gobeithion pobl a’u bywydau bob dydd. Mae cynghorwyr yn cael eu hethol I gynrychioli eu cymunedol yn eu cyngor lleol.
Yn rhinwedd eich swydd, bydd gennych rôl bwysig wrth ddod i enderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl. Mae cynghorau lleol yn gyfrifol am amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau gwastraff, ailgylchu ac amgylcheddol, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio, tai, budd-daliadau, llyfrgelloedd, cludiant a chyfleusterau hamdden. Fel cynghorydd, byddwch yn dylanwadu ar sut mae’r gwasanaethau yma’n cael eu cyflwyno, eu hariannu a’u blaenoriaethu. Bydd eich dylanwad yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u hardaloedd. Bydd angen I chi gydbwyso buddiannau trigolion eich cymuned, trigolion y fwrdeistref neu’r sir, eich plaid (os oes gennych un) a’r cyngor.
Mae pob cynghorydd yn dadlau achos eu cymunedau ac yn cynrychioli eu hetholaethau unigol pan ofynnir am gyngor neu gefnogaeth. Er bod cynghorwyr yn treulio amser yng nghyfarfodydd y cyngor, maen nhw’n treulio llawer mwy o’u hamser yn eu cymunedau yn siarad ac yn gweithio gyda’r cyhoedd a chylchoedd cymunedol.
Mae gwaith cynghorwyr yn y cyngor yn amrywio yn ôl trefn lywodraethu’r cyngor. Bydd gan y cyngor gyfansoddiad sy’n nodi’r gweithdrefnau ar gyfer dod i benderfyniadau, cylchoedd gorchwyl pwyllgorau mewnol, rôl a chyfrifoldebau deiliaid swyddi penodol, rheolau sefydlog cyfarfodydd, codau ymddygiad a rheoliadau ariannol.
Mae pob cynghorydd yn aelod o’r cyngor llawn sy’n pennu’r polisïau a’r gyllideb gyffredinol. Bydd rhai cynghorwyr yn aelodau o gabinet neu fwrdd gweithredol a bydd yr aelodau sy’n weddill yn gyfrifol am oruchwylio a chraffu ar gyflawniad y cyngor, sefydliadau eraill a chyrff allanol. Mae pwyllgorau rheoliadol yn gyfrifol am feysydd cynllunio a thrwyddedu. Mae cynghorwyr yn cael eu penodi ar gyrff lleol hefyd fel cyrff llywodraethu ysgolion a phartneriaethau lleol. Maen nhw naill ai’n cynrychioli’r cyngor, yn ymddiriedolwyr neu’n gyfarwyddwyr ar eu pen eu hunain. Mae rhai cynghorwyr hefyd yn aelodau o awdurdodau heddlu, awdurdodau tân ac achub yn ogystal ag awdurdodau parciau cenedlaethol, lle bo hynny’n berthnasol.
Hyd yn oed os nad oes gan gynghorydd unrhyw rôl ffurfiol neu os nad ydyw’n aelod o bwyllgor, mae rôl ‘arweinydd y gymuned’ yn berthnasol i bob cynghorydd. Gall hyn olygu sawl peth gan gynnwys hyrwyddo buddiannau eich ward; lobïo am bryderon lleol; dylanwadu ar gyrff partner i weithio tuag at yr un nod; datrys gwrthdaro rhwng cyrff cymunedol; annog cyrff cymunedol i ganfod atebion yn eu cymunedau eu hunain; a chydbwyso’r galw o bob cyfeiriad am adnoddau wrth ddod i benderfyniadau fydd o les i ardal yr awdurdod yn gyffredinol.
“Mae diffyg profiad yn rhinwedd oherwydd gall aelod newydd gynnig her a ffordd newydd o edrych ar bethau. Mae herio yn bwysig yn ogystal â chwrteisi ac ymchwil.”


