Yn 'Y Wlad sy'n Dysgu', (2001), amlinellodd Llywodraeth y Cynulliad ei bwriad i drawsnewid addysg 14-19 a gofalu y byddai:
'95% o bobl ifanc – erbyn troi'n 25 oed – yn barod ar gyfer gwaith medrus neu addysg uwch erbyn 2015.'
Arweiniodd y ddogfen gychwynnol honno at Y Wlad sy'n Dysgu: Llwybrau Dysgu 14-19 (2002) a rhagor o ganllawiau wedyn yn Llwybrau Dysgu 14-19 (2004) a Llwybrau Dysgu 14-19, Canllawiau II (2006) gan gynnwys cynllun gweithredu i fwrw ymlaen â'r rhaglen rhwng 2006 a 2010. I gyflawni'r nod uchod, nododd Llywodraeth y Cynulliad nifer o feini tramgwydd cwrícwlaidd y byddai angen eu chwalu i ddiwallu anghenion y rhai sy'n dysgu yn ystod y ganrif newydd:
- Rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd
- Rhwng ysgolion a chyflogwyr
- Rhwng adegau pan fo pobl yn sefyll profion ac arholiadau fel arfer
- Rhwng gweithgareddau yn yr ysgol a'r rhai tu allan i oriau'r ysgol
- Rhwng y darparwyr
Bydd Llwybr Dysgu yn galluogi pawb i ddysgu trwy gyfuniad o weithgareddau ffurfiol, lled ffurfiol ac anffurfiol, lle bydd rhagor o ddewisiadau a hyblygrwydd, craidd dysgu a chymorth amrywiol i ddiwallu'r anghenion. Mae chwech elfen allweddol ym mhob Llwybr Dysgu:
Llwybr Dysgu
- Llwybr Dysgu unigol
- Rhagor o ddewisiadau a hyblygrwydd
- Craidd y dysgu
Cymorth i'r rhai sy'n dysgu
- Hyfforddwr dysgu
- Cymorth personol
- Cyngor a chyfarwyddyd am yrfaoedd
Mae Mesur 'Dysgu a Sgiliau' Cymru 2008 yn atgyfnerthu'r polisi ynglŷn â Llwybrau Dysgu 14-19 ac yn rhan gynhenid o strategaeth Llywodraeth y Cynulliad, Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru sy'n pennu agenda ar wahân i Gymru ynghylch addysg a hyfforddiant. Rhwydweithiau Ardal Leol 14-19 (partneriaethau strategol sy'n pennu blaenoriaethau strategol) sy'n gyfrifol am ateb gofynion y mesur.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Opie


