Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Fframwaith Datblygu Cynaladwy / Materion ariannol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Materion ariannol

Ar hyn o bryd, mae byd llywodraeth leol mewn sefyllfa ariannol anodd. Ar ben hynny, bydd rhai adnoddau'n brin yn y dyfodol ac mae cost cael gwared ar wastraff a chwtogi ar garbon yn cynyddu. Yng ngoleuni hynny i gyd, gofynnodd WLGA i gwmni PricewaterhouseCooper gynnal ymchwil am arian a datblygu cynaladwy.

Mae adroddiad y cwmni am lunio adroddiadau a pharatoi cyfrifon ynghylch cynaladwyedd yn crynhoi sefyllfa'r awdurdodau lleol ar hyn o bryd o ran penderfyniadau cynaladwy. Mae'n esbonio'r ddadl o blaid paratoi adroddiadau ariannol a chyfrifon yn ôl egwyddorion datblygu cynaladwy.

Mae WLGA yn parhau i gydweithio â'r cwmni, Llywodraeth y Cynulliad, ACCA a CIPFA i hysbysu a chynghori ynglŷn â pharatoi adroddiadau sy'n adlewyrchu datblygu cynaladwy.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin