Rydych chi yma: Hafan / Bod yn gynghorydd 2012 / Cynghorydd - Canllawiau i ymgeiswyr: Etholiadau lleol Cymru 2012 / 1. Pam bod yn gynghorydd?
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

1. Pam bod yn gynghorydd?

Os ydych yn darllen y canllawiau yma, mae’n fwy na phosibl bod diddordeb gennych mewn bod yn gynghorydd.

Gall y rhesymau dros geisio cael eich ethol yn gynghorydd amrywio, ond mae ceisio gwella bywydau pobl neu roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol yn thema gyffredin.

I lawer, gall olygu datblygu’r hyn maen nhw eisoes yn ei wneud. Gall hynny olygu gwirfoddoli gyda chylchoedd cymunedol lleol, cyrff llywodraethu ysgolion, gweithio gydag undebau llafur, cynghorau cymunedol neu waith sy’n cynnwys cydweithio â’u cyngor lleol. 

Fel arfer, mae pobl am fod yn gynghorwyr oherwydd eu bod eisiau:

gwneud gwahaniaeth a dylanwadu ar ddyfodol y gymuned leol;

  • amlygu neu fynd i’r afael â phryderon sy’n ymwneud â materion lleol penodol fel cefnogi busnesau, yr amgylchedd neu gyfleusterau a gwasanaethau lleol;
  • cynrychioli barn eu cymdogion, eu cyfeillion a’r gymuned ehangach neu roi llais i gylchoedd penodol nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli’n ddigonol;
  • dilyn credoau personol neu gefnogi plaid benodol; a
  • meithrin medrau personol neu fusnes.

 

 

Beacouncillor top tips“Y rhan bwysicaf o rôl cynghorydd yn fy marn i yw’r cyfle i wella sefyllfa fy nghymuned ac effeithio ar fywydau’r trigolion er gwell.”